Matthew Shepard | |
---|---|
Ganwyd | Matthew Wayne Shepard 1 Rhagfyr 1976 Casper |
Bu farw | 12 Hydref 1998 o traumatic brain injury Fort Collins |
Man preswyl | Laramie, Casper |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | myfyriwr |
Tad | Dennis Shepard |
Mam | Judy Shepard |
Gwefan | http://www.matthewshepard.org/ |
Roedd Matthew Wayne Shepard (1 Rhagfyr 1976 – 12 Hydref 1998) yn fyfyriwr Americanaidd hoyw a oedd yn astudio ym Mhrifysgol Wyoming. Ymosodwyd arno ger Laramie ar noson y 6ed -7fed o Hydref 1998. Bu farw yn Ysbyty Poudre Valley yn Fort Collins, Colorado ar y 12fed o Hydref, o ganlyniad i anafiadau i'w ben. Tynnodd ei lofruddiaeth sylw cenedlaethol a rhyngwladol at ddeddfwriaeth yn erbyn troseddau o gasineb ar lefel talaith a ffederal.
Yn yr achos llys, plediodd Russell Arthur Henderson yn euog o lofruddiaeth a herwgipio gan osgoi y gosb eithaf. Cafwyd Aaron James McKinney yn euog o lofruddiaeth a herwgipio. Ar hyn o bryd, mae Henderson yn y carchar am ddwy ddedfryd o garchar am oes tra bod McKinney yno am yr un ddedfryd ond heb obaith am barôl.
Mae'r ddrama Gwaun Cwm Garw yn seiliedig ar hanes ei farwolaeth.